Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Tachwedd 2020
Amser:
13.30 -
16.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6505
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Mandy Jones AS |
Tystion: |
Anna Adams, Llywodraeth Cymru Matthew Jenkins, Llywodraeth Cymru Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Jacob Dafydd Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Y Grŵp Rhyng-weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol: Briff technegol ar y cyd â’r Pwyllgor Cyllid
1.1. Cafodd y Pwyllgorau friff technegol ar waith y Grŵp Rhyng-weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
2.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
3 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
· Jacob Dafydd Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol
4 Papurau i’w nodi
4.1 Gohebiaeth gan unigolyn ynghylch strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl - 23 Tachwedd 2020
4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch y materion a godwyd.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2020.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru - trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3 a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd i gael ymatebion i gwestiynau nad oedd yr Aelodau'n gallu eu gofyn.